4.Mae’r adran hon yn egluro diben y Ddeddf, sef gwella’r canlynol:
y trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
y trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a
y cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
5.Caiff amrywiol swyddogaethau’r cyrff cyhoeddus y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf hon eu cyfeirio at gyflawni’r diben hwn. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf (ac yn y nodiadau hyn) at ddiben y Ddeddf yn gyfeiriad at y diben hwn.
6.Mae’r adran hon yn rhoi sylw i drais yn erbyn menywod a merched, drwy ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf (a ddiffinnir yn adran 2(2) fel “swyddogaethau perthnasol”) roi sylw i’r angen i ddileu neu leihau ffactorau sy’n cynyddu’r risg o drais yn erbyn menywod a merched, neu’n gwaethygu effaith trais o’r fath ar ddioddefwyr. Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau perthnasol, fodd bynnag, roi sylw hefyd i’r holl faterion perthnasol eraill.
7.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth yn nodi sut y byddant yn gweithio tuag at gyflawni diben y Ddeddf, ac i adolygu’r strategaeth honno o dro i dro. Rhaid i’r strategaeth bennu amcanion y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i’w cyflawni, wrth arfer eu swyddogaethau (gweler adran 4). Bydd y strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
8.Yn unol â diben y Ddeddf, rhaid i’r amcanion a bennir yn y strategaeth genedlaethol a’r camau a nodir i gyflawni’r amcanion hynny ganolbwyntio ar atal, amddiffyn a chynorthwyo, a byddant yn pennu’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd. Gallai amcanion a bennir mewn cysylltiad â threfniadau atal gynnwys ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth, mentrau addysgol neu raglenni sydd â’r nod o adsefydlu tramgwyddwyr. O ran trefniadau amddiffyn a chynorthwyo, gall amcanion gynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i gefnogi’r gwaith o ganfod dioddefwyr yn gynnar, drwy weithredu rhaglen hyfforddi genedlaethol ar gyfer staff sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (megis mewn awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol) ac sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd.
9.Mae’r personau hynny y bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â hwy cyn cyhoeddi’r strategaeth genedlaethol gyntaf ac wrth adolygu’r strategaeth genedlaethol (gweler is-adran 7) yn debygol o gynnwys awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol: mae’n ofynnol i’r cyrff hyn roi sylw i’r strategaeth genedlaethol wrth baratoi ac adolygu eu strategaethau lleol (gweler adran 7). Yr ymgyngoreion tebygol eraill yw sefydliadau y gall eu gweithgareddau gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf; er enghraifft comisiynwyr heddlu a throseddu a darparwyr gwasanaethau prawf.
10.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol baratoi a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth leol”) ar y cyd er mwyn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Ar hyn o bryd ceir saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru a’u rôl yw cynllunio, sicrhau a chyflenwi gwasanaethau gofal iechyd yn eu hardaloedd. Diffinnir “awdurdod lleol” yn adran 24(1), a’i ystyr yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.
11.Gall strategaeth leol gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chamau gweithredu penodol y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn disgwyl iddynt gael eu cymryd, o fewn ardal yr awdurdod, gan unrhyw awdurdod cyhoeddus, unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y gallai ei weithgareddau gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Er enghraifft, efallai y bydd darparwr gwasanaeth trydydd sector ym maes cam-drin domestig o fewn ardal awdurdod lleol yn dymuno cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ar y cyd â’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol. Pe byddai pob parti’n gytûn, gellid cynnwys manylion y cam gweithredu hwn yn y strategaeth leol ar gyfer yr ardal honno.
12.Mae adran 7(1) yn amlinellu nifer o faterion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol roi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol.
13.Mae hyn yn cynnwys yr asesiad diweddaraf o anghenion a baratowyd o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O dan adran 14 o’r Ddeddf honno mae’n ofynnol i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol asesu, ar y cyd, yr anghenion o ran gofal a chymorth, cymorth i ofalwyr, a gwasanaethau ataliol yn ardal yr awdurdod. Gallai’r asesiad hwn ganfod anghenion gofal a chymorth o ganlyniad i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; byddai gwybodaeth o’r fath yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol.
14.Mae paragraffau (c) i (e) o is-adran (1) yn cyfeirio at asesiadau strategol a baratoir yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae’r asesiadau hyn yn llywio cynnwys y strategaethau a baratoir ar gyfer ardal awdurdod lleol gan nifer o gyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac y cyfeirir atynt ar y cyd fel partneriaethau diogelwch cymunedol) o dan adran 6(1) o’r Ddeddf honno er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn, aildroseddu a chamddefnyddio sylweddau yn ardal yr awdurdod lleol. Cynhelir asesiadau strategol sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn ac aildroseddu yn unol â rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau Trosedd ac Anhrefn (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007, ac asesiadau strategol sy’n ymwneud â mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn unol â rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007. Mae’r grŵp strategaeth a sefydlwyd gan y bartneriaeth diogelwch cymunedol o dan y rheoliadau perthnasol yn cynnal asesiadau strategol blynyddol ar gyfer ardal awdurdod lleol. Diben yr asesiad strategol yw cynorthwyo’r bartneriaeth diogelwch cymunedol i ddiwygio ei chynllun partneriaeth. Mae’r cynllun partneriaeth ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn nodi’r strategaethau a baratowyd ar gyfer yr ardal honno o dan adran 6(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut y maent i’w rhoi ar waith. Mae’r grŵp strategaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill sy’n ffurfio’r bartneriaeth diogelwch cymunedol y mae gofynion adran 6 o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt. Mae asesiadau strategol yn cynnwys dadansoddiad o lefelau a phatrymau aildroseddu, trosedd, anhrefn a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol. Mae’n bosibl, felly, y bydd asesiadau o’r fath yn nodi lefelau a phatrymau o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a allai helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol. Mae’r asesiadau hefyd yn dadansoddi unrhyw newidiadau yn lefelau a phatrymau aildroseddu, trosedd, anhrefn a chamddefnyddio sylweddau a’r hyn sy’n gyfrifol am newidiadau o’r fath. Mae’r dadansoddiad hwn yn debygol o fod o gymorth wrth baratoi ac adolygu strategaethau lleol o dan adran 6 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).
15.Os bydd Gweinidogion o’r farn bod yr asesiadau hyn yn annigonol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol, cânt arfer y pŵer gwneud rheoliadau yn is-adran (2) i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gynnal rhagor o asesiadau.
16.Mae’r adran hon yn mewnosod is-adran (6A) i adran 29 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”). Mae adran 29 o Ddeddf 1996 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru, neu gyhoeddi gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd. Bydd mewnosod is-adran (6A) i adran 29 o Ddeddf 1996 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ynghylch y camau a gymerodd awdurdodau i hyrwyddo diben y Ddeddf wrth arfer eu swyddogaethau addysg. Mae’r pŵer yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi, pryd y’i cyhoeddir ac ar ba ffurf y’i cyhoeddir.
17.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 408 o Ddeddf 1996. Mae adran 408 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol. Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth yn gyffredinol, neu i berson rhagnodedig, ynghylch nifer o faterion gan gynnwys y cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir a’r ddarpariaeth addysgol a gynigir gan ysgolion. Mae adran 9(3)(a) i (c) o’r Ddeddf yn ehangu’r rhestr o faterion y caniateir ei gwneud yn ofynnol, drwy reoliadau, ddarparu gwybodaeth amdanynt i gynnwys gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth addysg rhyw a’r datganiadau polisi a baratowyd gan ysgolion ynghylch y ddarpariaeth addysg rhyw. Mae adran 9(3)(d) yn mewnosod is-adran (8A) i adran 408 o Ddeddf 1996, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau o dan adran 408(1) o’r Ddeddf honno, roi sylw i ddymunoldeb bod gwybodaeth ar gael ynghylch a yw unrhyw rannau o’r cwricwlwm ac unrhyw ddarpariaeth addysgol mewn ysgolion a gynhelir yn hyrwyddo diben y Ddeddf ac, os ydynt, sut y maent yn gwneud hynny. Ni fyddai’r ddyletswydd yn yr is-adran (8A) newydd a fewnosodir i Ddeddf 1996 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.
18.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ynghylch sut y gallant gyfrannu at ddiben y Ddeddf. Mae sefydliad o fewn y sector addysg bellach os yw’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, yn sefydliad dynodedig o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“Deddf 1992”) neu’n goleg chweched dosbarth.
19.Mae’r adran hefyd yn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru o ran sut y gall y cyrff gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Mae sefydliad o fewn y sector addysg uwch os yw’n brifysgol sy’n derbyn cymorth ariannol o dan adran 65 o Ddeddf 1992, yn sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch neu’n sefydliad y mae dynodiad a wnaed, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael effaith mewn perthynas ag ef (fel y’i diffinnir yn adran 72(3) o Ddeddf 1992).
20.Rhaid i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru roi sylw i ganllawiau a ddyroddir iddynt o dan yr adran hon. Mae sefydliad “yng Nghymru” os yw ei weithgareddau’n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Ni fyddai’r adran hon yn gymwys i sefydliad sy’n darparu cwrs addysg penodol yng Nghymru, er enghraifft, pe bai gweithgareddau’r sefydliad yn cael eu cynnal yn Lloegr yn bennaf.
21.Mae is-adran (3) yn gosod cyfyngiadau ar gynnwys y canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eu dyroddi o dan yr adran hon. Ni chaiff y canllawiau fod ar gyfer sefydliad penodol nac ymwneud â’r materion a restrir yn (b) i (d).
22.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi dangosyddion y gellir eu defnyddio i fesur y cynnydd a wneir tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un y maent yn ei ystyried yn berthnasol cyn cyhoeddi’r dangosyddion. Mae’n debygol y byddai hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio yn y maes.
23.Er enghraifft, gallai nifer yr achosion o gam-drin domestig neu drosedd rywiol ledled Cymru, nifer yr unigolion mewn rhan benodol o Gymru sydd wedi eu hatgyfeirio at Gynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol neu nifer y cyrff cyhoeddus yng Nghymru sydd â pholisïau cam-drin domestig ar gyfer y gweithle fod yn ddangosyddion.
24.Mae adran 15(1) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ar sut y dylai’r awdurdodau arfer eu swyddogaethau er mwyn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Nodir ystyr “awdurdodau perthnasol” yn adran 14 fel awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol (ceir diffiniad pellach o’r ddau yma yn adran 24), awdurdod tân ac achub yng Nghymru ac un o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
25.Mae adran 15(2) yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o faterion y gallai’r canllawiau sôn amdanynt. Gallai’r canllawiau ymdrin â’r modd y gallai awdurdodau gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â diben y Ddeddf hon. Er enghraifft, gallai canllawiau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i fod yn eiriolwr, mewn ysgolion a lleoliadau eraill, dros fentrau sy’n berthnasol i ymdrin â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; gallai mentrau o’r fath gynnwys codi ymwybyddiaeth o ddiben y Ddeddf neu ddatblygu ffyrdd o wella arferion a safonau o ran y dulliau a ddefnyddir i gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Gellid dyroddi canllawiau hefyd mewn perthynas â helpu i annog gweithwyr proffesiynol (megis staff meddygol damweiniau ac achosion brys) sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol i holi dioddefwyr posibl ynghylch camdriniaeth neu drais mewn amgylchiadau penodol a, phan fo’n briodol, i weithredu i geisio lleihau dioddefaint a niwed. Yn ogystal, gallai canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gefnogi’r gwaith o hyfforddi staff o fewn awdurdodau perthnasol. Ymgynghorodd Gweinidogion Cymru ar Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar 23 Hydref 2014. Er enghraifft, gallai canllawiau gynorthwyo awdurdodau perthnasol i ddefnyddio’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol fel sylfaen ar gyfer hyfforddi staff yn y maes hwn, gan gynnwys sut i helpu eu staff i holi a gweithredu.
26.Mae adran 17 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i ddilyn unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan adran 15 o’r Ddeddf. Nod y ddyletswydd hon yw sicrhau dull cyson ac effeithiol o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru. Nid yw awdurdod perthnasol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i’r graddau y bo’n penderfynu, yn unol ag adran 17(2), ar bolisi amgen mewn perthynas â phwnc y canllawiau. O dan amgylchiadau o’r fath rhaid i’r awdurdod benderfynu ar ei bolisi amgen a dyroddi datganiad polisi yn nodi ei ddull amgen o fynd o’i chwmpas hi (gweler adran 18 am y gofynion sy’n gymwys i ddatganiadau o’r fath). Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i awdurdod perthnasol geisio ffordd o ymdrin â’r mater sy’n wahanol, yn llwyr neu yn rhannol, i’r hyn a nodir yn y canllawiau statudol; gallai hynny ddigwydd, er enghraifft, pe bai polisi amgen a fabwysiedir gan awdurdod lleol yn darparu dull sy’n fwy cydnaws ag anghenion lleol.
27.Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r polisi amgen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod perthnasol yn debygol o gyfrannu at ddiben y Ddeddf mae adran 19 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd i awdurdod perthnasol. Gallai’r cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd unrhyw gamau er mwyn cydymffurfio â chanllawiau a ddyroddwyd i’r awdurdod o dan adran 15. Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
28.Mae adran 20 yn sefydlu swydd y Cynghorydd Cenedlaethol. Unigolyn a benodir drwy broses penodiadau cyhoeddus gan Weinidogion Cymru fydd y Cynghorydd, a bydd yn dal y swydd yn unol â thelerau a bennir gan y Gweinidogion. Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau, tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau mewn cysylltiad â’r Cynghorydd. Yn ogystal, caniateir i’r Gweinidogion roi i’r Cynghorydd y cymorth sydd ei angen arno i arfer ei swyddogaethau (er enghraifft, drwy ddyrannu staff Llywodraeth Cymru i’w gynorthwyo a darparu swyddfa ac offer ar ei gyfer).
29.Mae adran 21 yn nodi swyddogaethau’r Cynghorydd, gyda phob un ohonynt yn ymwneud â chyflawni diben y Ddeddf. Nid rôl o fewn y gwasanaeth sifil yw hon; rôl gynghorol statudol ydyw, a bydd y Cynghorydd yn cynghori ac yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru o ran mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru er mwyn hyrwyddo arfer gorau ar draws y sector cyhoeddus yn rhan o waith y Cynghorydd.
30.Bydd gan y Cynghorydd rôl allweddol hefyd yn y gwaith o adolygu’r camau a gymerir gan awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau tân ac achub ac Ymddiriedolaethau’r GIG o dan y dyletswyddau a osodir gan y Ddeddf, gan roi gwybod i Weinidogion Cymru am y canlyniadau. I’r perwyl hwnnw, mae adran 21 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau tân ac achub ac Ymddiriedolaethau’r GIG gydymffurfio â cheisiadau rhesymol am wybodaeth gan y Cynghorydd. Mae’r pŵer hwn yn galluogi’r Cynghorydd i gael mynediad at yr wybodaeth y mae’n ei hystyried yn angenrheidiol i’w lywio wrth arfer y swyddogaethau y sonnir amdanynt yn adran 21(1). Gallai gwybodaeth berthnasol at y dibenion hyn fod yn fanylion gweithdrefnau a phrosesau ar gyfer canfod dioddefwyr y gamdriniaeth a’r trais y mae’r Ddeddf yn ymwneud ag ef, ac ymateb iddynt; neu’n fanylion hyfforddiant perthnasol y mae staff wedi’i dderbyn at ddibenion mynd i’r afael â cham-drin a thrais.
31.Mae’r grŵp hwn o adrannau yn cyfeirio at “Cynghorydd Cenedlaethol” a “Cynghorydd Gweinidogol”. Pan gyflwynwyd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roedd yn cyfeirio at y swydd a sefydlir o dan 20 fel y “Cynghorydd Gweinidogol”. Yng ngham 3 o’r broses o graffu ar y Bil yn y Cynulliad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliannau i’r Bil er mwyn newid enw’r Cynghorydd i “Cynghorydd Cenedlaethol”. Ni chafodd rhai o’r gwelliannau hynny eu cytuno gan y Cynulliad, felly ceir rhai cyfeiriadau at “Cynghorydd Gweinidogol” yn y Ddeddf o hyd.
32.O dan adran 22, mae gofyn i’r Cynghorydd baratoi cynllun blynyddol ac adroddiad blynyddol parthed arferiad ei swyddogaethau. Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun ac yn galluogi’r Cynghorydd i ymgynghori ag unrhyw un wrth ei baratoi. Mae angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar y cynllun (a gellir ei ddiwygio, os yw’r Cynghorydd yn cytuno).
33.Hefyd, rhaid i adroddiadau blynyddol y Cynghorydd gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael trosolwg llawn o waith y Cynghorydd Gweinidogol a sicrhau bod y rôl yn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf.
34.O dan adran 23, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynlluniau a’r adroddiadau blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r Cynghorydd ar gael yn gyhoeddus. Bydd yr wybodaeth hon o ddiddordeb penodol i’r sefydliadau cyhoeddus a’r sefydliadau trydydd sector hynny sy’n gweithio ym maes trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
35.Mae adran 23 hefyd yn nodi pa adroddiadau eraill y mae gofyn i Weinidogion Cymru eu cyhoeddi. Rhaid cyhoeddi adroddiadau a grybwyllir yng nghynllun blynyddol y Cynghorydd; caniateir cyhoeddi adroddiadau eraill, nad ydynt wedi’u crybwyll yn y cynllun blynyddol, yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru.
36.Mae’r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 23(1) yn un amodol. Mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu gwybodaeth o adroddiadau neu gynlluniau y mae’r Cynghorydd yn eu hanfon atynt cyn cyhoeddi’r dogfennau hynny. Er enghraifft, gallai gwybodaeth a gynhwysir mewn adroddiad gan y Cynghorydd olygu y gellid adnabod dioddefwr neu dramgwyddwr cam-drin domestig; gallai cyhoeddi’r wybodaeth honno wneud yr unigolyn yn agored i risg o niwed neu gallai ragfarnu achos llys sydd yn yr arfaeth.
37.Mae’r adran hon yn nodi ystyr y termau diffiniedig a ddefnyddir yn y Ddeddf.
38.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau “cam-drin”, “cam-drin domestig”, “trais ar sail rhywedd” a “trais rhywiol”, ac mae’n gwneud hynny drwy ddisgrifio’r ymddygiadau sydd i gael eu hystyried yn gamdriniaeth neu’n drais at ddibenion y Ddeddf.
39.Mae’r Ddeddf yn darparu ei bod yn ofynnol, o ran cam-drin domestig, bod y sawl sy’n cam-drin yn “gysylltiedig” â’r dioddefwr. Diffinnir person sy’n “gysylltiedig” yn is-adrannau (2) i (4).
40.Mae hyn yn cynnwys, yn is-adran (2)(h), y rheini sydd mewn “perthynas bersonol agos” â’i gilydd, neu sydd wedi bod mewn perthynas o’r fath. Mae’r dull a ddefnyddir yn y Ddeddf hon yn wahanol i’r dull a ddefnyddir wrth ddiffinio “personau cysylltiedig” yn adran 58(2)(h) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac “associated persons” yn adran 62(3)(a) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (fel y’i mewnosodir gan adran 4 o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004). Yn y Deddfau hynny, rhaid i’r berthynas bersonol agos fod yn fod yn un sydd wedi “parhau am gyfnod sylweddol”(“significant duration”). Nid yw hynny’n wir o dan y Ddeddf hon. Mae adran 24(2)(h) yn cwmpasu perthynas bersonol agos o unrhyw hyd, er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall trais fod yn bresennol yng nghamau cynnar iawn perthynas bersonol agos. Gall perthynas bersonol agos fodoli rhwng dau berson o’r un rhyw neu rhwng dau berson o rywiau gwahanol.
41.Diffinnir “cam-drin” i olygu cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol ac ariannol. Yn aml, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn teimlo o dan fygythiad, gorfodaeth neu reolaeth. Gallai hyn fod o ganlyniad i drais corfforol gwirioneddol, er enghraifft, neu fygythiad ohono. Yn y naill achos neu’r llall byddai’r diffiniad o gam-drin yn ymestyn i ymddygiad o’r fath, gan y byddai’n gamdriniaeth gorfforol yn achos trais corfforol gwirioneddol, neu’n gamdriniaeth seicolegol yn achos bygythiadau o drais. Gallai tramgwyddwr hefyd rwystro dioddefwr, mewn modd afresymol, rhag cael mynediad i’w gyfrif banc er mwyn ei reoli. Byddai ymddygiad o’r fath yn gam-drin ariannol, ac felly’n dod o dan y diffiniad o gam-drin domestig. Fodd bynnag, ni fyddai ymyrraeth resymol â materion ariannol person arall yn cael ei hystyried yn gamdriniaeth. Ni fyddai cam-drin ariannol felly yn cwmpasu rhiant sy’n rheoli materion ariannol ei blentyn mewn modd rhesymol. Mae’n bosibl nad yw cam-drin yn cynnwys gweithredoedd uniongyrchol yn erbyn y dioddefwr bob amser.
42.Gallai cam-drin seicolegol ac emosiynol ddilyn o ymyrryd â phethau sy’n bwysig i ddioddefwr, neu mewn perthynas â’r pethau hynny. Gallai hynny gynnwys niwed bwriadol i gartref neu eiddo dioddefwr, neu ymddwyn yn dreisgar tuag at anifeiliaid anwes dioddefwr. Gallai beichiogrwydd dan orfod fod yn gam-drin seicolegol neu emosiynol, a chodi ohono, pan fo menyw neu ferch yn cael ei gorfodi neu ei thwyllo i gael rhyw heb ddulliau atal cenhedlu er mwyn ei gwneud yn feichiog. A gallai erthyliad dan orfod hefyd fod yn gam-drin o’r fath, a chodi ohono, pan fo menyw neu ferch yn cael ei gorfodi neu ei thwyllo i derfynu ei beichiogrwydd, pa un a yw’r weithdrefn derfynu ei hun yn gyfreithlon ai peidio.
43.Un enghraifft o drais ar sail rhywedd sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad yw’r hyn a elwir yn “drais ar sail anrhydedd”, pan fo pobl yn dioddef trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu yn sgil y canfyddiad eu bod wedi peri gwarth neu gywilydd i’r teulu neu’r gymuned pan fo’r gwarth neu’r cywilydd canfyddedig yn codi o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol (megis credoau ynghylch cael perthynas â pherson o’r rhyw arall oddi allan i briodas neu gredoau ynghylch cyfunrhywiaeth).
44.Mae’r diffiniad o drais ar sail rhywedd at ddibenion y Ddeddf yn cynnwys aflonyddu ac anffurfio organau cenhedlu benywod; diffinnir y ddau yn is-adran (5).
45.Mae’r diffiniad o drais rhywiol at ddibenion y Ddeddf yn cynnwys camfanteisio rhywiol ac aflonyddu rhywiol, ac mae’r ddau wedi eu diffinio yn is-adran (5). Mae camfanteisio rhywiol yn cynnwys treisio, ymosod rhywiol a nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant. Diffinnir “aflonyddu” yn is-adran (5) hefyd, ac mae’r diffiniad yn cynnwys aflonyddu ar ffurf siarad.
46.Atodir tabl sy’n crynhoi’r ymddygiadau isod:
Ymddygiadau | Dioddefwr | Tramgwyddwr | |
---|---|---|---|
Trais ar sail Rhywedd | a. Yn codi o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol | Unrhyw un | Unrhyw un |
b. Anffurfio organau cenhedlu benywod | Menywod a merched | Unrhyw un | |
c. Priodas dan orfod | Unrhyw un | Unrhyw un | |
Cam-drin Domestig | Person sy’n gysylltiedig â’r tramgwyddwr (gweler adran 24(2)) | Person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr (gweler adran 24(2)) | |
Trais Rhywiol | Unrhyw un | Unrhyw un |