Adran 24 – Dehongli
37.Mae’r adran hon yn nodi ystyr y termau diffiniedig a ddefnyddir yn y Ddeddf.
38.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau “cam-drin”, “cam-drin domestig”, “trais ar sail rhywedd” a “trais rhywiol”, ac mae’n gwneud hynny drwy ddisgrifio’r ymddygiadau sydd i gael eu hystyried yn gamdriniaeth neu’n drais at ddibenion y Ddeddf.
39.Mae’r Ddeddf yn darparu ei bod yn ofynnol, o ran cam-drin domestig, bod y sawl sy’n cam-drin yn “gysylltiedig” â’r dioddefwr. Diffinnir person sy’n “gysylltiedig” yn is-adrannau (2) i (4).
40.Mae hyn yn cynnwys, yn is-adran (2)(h), y rheini sydd mewn “perthynas bersonol agos” â’i gilydd, neu sydd wedi bod mewn perthynas o’r fath. Mae’r dull a ddefnyddir yn y Ddeddf hon yn wahanol i’r dull a ddefnyddir wrth ddiffinio “personau cysylltiedig” yn adran 58(2)(h) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac “associated persons” yn adran 62(3)(a) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (fel y’i mewnosodir gan adran 4 o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004). Yn y Deddfau hynny, rhaid i’r berthynas bersonol agos fod yn fod yn un sydd wedi “parhau am gyfnod sylweddol”(“significant duration”). Nid yw hynny’n wir o dan y Ddeddf hon. Mae adran 24(2)(h) yn cwmpasu perthynas bersonol agos o unrhyw hyd, er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall trais fod yn bresennol yng nghamau cynnar iawn perthynas bersonol agos. Gall perthynas bersonol agos fodoli rhwng dau berson o’r un rhyw neu rhwng dau berson o rywiau gwahanol.
41.Diffinnir “cam-drin” i olygu cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol ac ariannol. Yn aml, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn teimlo o dan fygythiad, gorfodaeth neu reolaeth. Gallai hyn fod o ganlyniad i drais corfforol gwirioneddol, er enghraifft, neu fygythiad ohono. Yn y naill achos neu’r llall byddai’r diffiniad o gam-drin yn ymestyn i ymddygiad o’r fath, gan y byddai’n gamdriniaeth gorfforol yn achos trais corfforol gwirioneddol, neu’n gamdriniaeth seicolegol yn achos bygythiadau o drais. Gallai tramgwyddwr hefyd rwystro dioddefwr, mewn modd afresymol, rhag cael mynediad i’w gyfrif banc er mwyn ei reoli. Byddai ymddygiad o’r fath yn gam-drin ariannol, ac felly’n dod o dan y diffiniad o gam-drin domestig. Fodd bynnag, ni fyddai ymyrraeth resymol â materion ariannol person arall yn cael ei hystyried yn gamdriniaeth. Ni fyddai cam-drin ariannol felly yn cwmpasu rhiant sy’n rheoli materion ariannol ei blentyn mewn modd rhesymol. Mae’n bosibl nad yw cam-drin yn cynnwys gweithredoedd uniongyrchol yn erbyn y dioddefwr bob amser.
42.Gallai cam-drin seicolegol ac emosiynol ddilyn o ymyrryd â phethau sy’n bwysig i ddioddefwr, neu mewn perthynas â’r pethau hynny. Gallai hynny gynnwys niwed bwriadol i gartref neu eiddo dioddefwr, neu ymddwyn yn dreisgar tuag at anifeiliaid anwes dioddefwr. Gallai beichiogrwydd dan orfod fod yn gam-drin seicolegol neu emosiynol, a chodi ohono, pan fo menyw neu ferch yn cael ei gorfodi neu ei thwyllo i gael rhyw heb ddulliau atal cenhedlu er mwyn ei gwneud yn feichiog. A gallai erthyliad dan orfod hefyd fod yn gam-drin o’r fath, a chodi ohono, pan fo menyw neu ferch yn cael ei gorfodi neu ei thwyllo i derfynu ei beichiogrwydd, pa un a yw’r weithdrefn derfynu ei hun yn gyfreithlon ai peidio.
43.Un enghraifft o drais ar sail rhywedd sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad yw’r hyn a elwir yn “drais ar sail anrhydedd”, pan fo pobl yn dioddef trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu yn sgil y canfyddiad eu bod wedi peri gwarth neu gywilydd i’r teulu neu’r gymuned pan fo’r gwarth neu’r cywilydd canfyddedig yn codi o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol (megis credoau ynghylch cael perthynas â pherson o’r rhyw arall oddi allan i briodas neu gredoau ynghylch cyfunrhywiaeth).
44.Mae’r diffiniad o drais ar sail rhywedd at ddibenion y Ddeddf yn cynnwys aflonyddu ac anffurfio organau cenhedlu benywod; diffinnir y ddau yn is-adran (5).
45.Mae’r diffiniad o drais rhywiol at ddibenion y Ddeddf yn cynnwys camfanteisio rhywiol ac aflonyddu rhywiol, ac mae’r ddau wedi eu diffinio yn is-adran (5). Mae camfanteisio rhywiol yn cynnwys treisio, ymosod rhywiol a nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant. Diffinnir “aflonyddu” yn is-adran (5) hefyd, ac mae’r diffiniad yn cynnwys aflonyddu ar ffurf siarad.
46.Atodir tabl sy’n crynhoi’r ymddygiadau isod:
Ymddygiadau | Dioddefwr | Tramgwyddwr | |
---|---|---|---|
Trais ar sail Rhywedd | a. Yn codi o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol | Unrhyw un | Unrhyw un |
b. Anffurfio organau cenhedlu benywod | Menywod a merched | Unrhyw un | |
c. Priodas dan orfod | Unrhyw un | Unrhyw un | |
Cam-drin Domestig | Person sy’n gysylltiedig â’r tramgwyddwr (gweler adran 24(2)) | Person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr (gweler adran 24(2)) | |
Trais Rhywiol | Unrhyw un | Unrhyw un |