xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Strategaethau lleol

5Dyletswydd i baratoi strategaethau lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol, a Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, baratoi, ar y cyd, strategaeth (“strategaeth leol”) ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.

(2)Rhaid i strategaeth leol—

(a)pennu amcanion y byddant, os cânt eu cyflawni, ym marn yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn cyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon;

(b)pennu o fewn pa gyfnodau y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu cyflawni’r amcanion a bennir;

(c)dynodi’r camau y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir.

(3)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol bennu amcanion sy’n ymwneud ag ardal gyfan yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni.

(4)Caiff strategaeth leol hefyd gynnwys darpariaeth yn ymwneud â chamau gweithredu penodol y bydd yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn disgwyl i’r canlynol eu cymryd mewn perthynas ag ardal yr awdurdod lleol—

(a)unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau y mae modd iddynt gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, neu

(b)unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae modd i’w weithgareddau gyfrannu at ymgyrraedd at y diben hwnnw.

(5)Ond mae’n ofynnol cael caniatâd y corff neu’r person o dan sylw cyn cynnwys mewn strategaeth leol unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â chamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (4).

6Cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol

(1)Rhaid cyhoeddi strategaeth leol gyntaf awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol heb fod yn hwyrach na un flwyddyn ar ôl dyddiad cynnal yr etholiad arferol cyntaf wedi dyddiad cychwyn adran 5(1).

(2)Heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl dyddiad pob etholiad arferol dilynol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol adolygu eu strategaeth leol.

(3)Mewn perthynas ag awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cânt adolygu eu strategaeth leol ar unrhyw adeg arall, a

(b)rhaid iddynt adolygu eu strategaeth leol os cânt eu cyfarwyddo yn ysgrifenedig i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) nodi’r rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd.

(5)Os bydd awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu diwygio eu strategaeth leol ar ôl adolygiad, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn—

(a)cyhoeddi eu strategaeth leol gyntaf;

(b)diwygio eu strategaeth leol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “etholiad arferol” yw etholiad a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr i awdurdodau lleol).

7Materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol

(1)Wrth baratoi ac adolygu strategaeth leol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i—

(a)y strategaeth genedlaethol ddiweddaraf a gyhoeddwyd;

(b)yr asesiad diweddaraf ar gyfer ardal yr awdurdod lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);

(c)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn ardal yr awdurdod lleol;

(d)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â mynd i’r afael â cham-drin sylweddau yn ardal yr awdurdod lleol;

(e)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi sylw i unrhyw beth a bennir yn y rheoliadau wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol;

(b)cynnal asesiadau pellach at ddiben y Ddeddf hon mewn perthynas ag unrhyw fater a bennir yn y rheoliadau.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (2) i gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sydd wedi eu gwneud o dan is-adran (2) yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

8Dyletswydd i weithredu strategaethau lleol

(1)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, gymryd pob cam sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth leol ddiweddaraf ar gyfer ei ardal a gyhoeddwyd.

(2)Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol y paratôdd yr awdurdod y strategaeth ar y cyd ag ef, wrth arfer ei swyddogaethau, gymryd pob cam sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r amcanion a bennir yn y strategaeth.