xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWELLA LLESIANT

Amcanion llesiantLL+C

No commentary item could be found for this reference M_I_3f6a5e28-cd30-4446-cf59-b3ffc0c3d4029Amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraillLL+C

(1)Nid yw cyfeiriadau yn yr adran hon at gorff cyhoeddus yn cynnwys Gweinidogion Cymru [F1neu gyd-bwyllgor corfforedig].

(2)Rhaid i amcanion llesiant corff cyhoeddus gael eu gosod a’u cyhoeddi—

(a)heb fod yn hwyrach na dechrau’r flwyddyn ariannol sy’n dilyn cychwyn yr adran hon, a

(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’r corff yn eu hystyried yn briodol.

(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.

(4)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.

(5)Caiff corff cyhoeddus, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.

(6)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (3) neu (4), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(7)Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)