RHAN 2GWELLA LLESIANT

Amcanion llesiant

9Amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill

(1)

Nid yw cyfeiriadau yn yr adran hon at gorff cyhoeddus yn cynnwys Gweinidogion Cymru.

(2)

Rhaid i amcanion llesiant corff cyhoeddus gael eu gosod a’u cyhoeddi—

(a)

heb fod yn hwyrach na dechrau’r flwyddyn ariannol sy’n dilyn cychwyn yr adran hon, a

(b)

ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’r corff yn eu hystyried yn briodol.

(3)

Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.

(4)

Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.

(5)

Caiff corff cyhoeddus, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.

(6)

Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (3) neu (4), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(7)

Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.