RHAN 2GWELLA LLESIANT
Amcanion llesiant
F18AAmcanion llesiant cyd-bwyllgorau corfforedig
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)
heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2023, a
(b)
ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(2)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)
heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig, a
(b)
ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(3)
Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu ei amcanion llesiant.
(4)
Os yw cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)
Caiff cyd-bwyllgor corfforedig, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6)
Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7)
Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.