xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol;
[F1(ba)cyd-bwyllgor corfforedig;]
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)Felindre;
[F2(iii)Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;]
[F3(da)yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006—
(i)Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
(ii)Addysg a Gwella Iechyd Cymru;]
(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(h)[F4y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil];
(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
[F5(m)Gofal Cymdeithasol Cymru;
(n)Awdurdod Cyllid Cymru;
(o)Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013));
(p)Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679));
(q)Cymwysterau Cymru.]
(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.
(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.
Diwygiadau Testunol
F1A. 6(1)(ba) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 (O.S. 2021/1360), rhlau. 1(2), 2(2)
F2A. 6(1)(d)(iii) wedi ei fewnosod (30.6.2024) gan Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 (O.S. 2024/775), rhlau. 1(2), 2(2)
F3A. 6(1)(da) wedi ei fewnosod (30.6.2024) gan Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 (O.S. 2024/775), rhlau. 1(2), 2(3)
F4Geiriau yn a. 6(1)(h) wedi eu hamnewid (1.8.2024) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 32(2) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 10(1) (ynghyd ag erglau. 10(2), 28)
F5A. 6(1)(m)-(q) wedi ei fewnosod (30.6.2024) gan Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 (O.S. 2024/775), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 6 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(b)