RHAN 2GWELLA LLESIANT

Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

6Ystyr “corff cyhoeddus”

(1)

At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

awdurdod lleol;

(c)

Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)

yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—

(i)

Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)

Felindre;

(e)

awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)

awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(g)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(h)

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(i)

Cyngor Celfyddydau Cymru;

(j)

Cyngor Chwaraeon Cymru;

(k)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)

Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)

Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.

(3)

Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.