RHAN 5DARPARIAETHAU TERFYNOL
56Cychwyn
(1)
Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adrannau 53 i 55, yr adran hon ac adran 57;
(b)
unrhyw ddarpariaeth arall i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi arfer ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf.
(2)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod hwnnw y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn.
(3)
O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)
caiff bennu gwahanol ddiwrnodau ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;
(b)
caiff gynnwys darpariaeth drosiannol neu arbed.
(4)
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.