RHAN 5DARPARIAETHAU TERFYNOL

55Dehongli

(1)

Yn y Ddeddf hon—

mae i “adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol” (“future trends report”) yr ystyr a roddir gan adran 11;

ystyr “amcanion lleol” (“local objectives”) yw amcanion a osodir gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn unol ag adran 36(2)(b);

ystyr “amcanion llesiant” (“well-being objectives”) yw amcanion a gyhoeddir o dan adran 7 neu a ddiwygir ac a gyhoeddir fel y’u diwygiwyd o dan adran 8 neu 9;

ystyr “ardal heddlu” (“police area”) yw ardal a restrir o dan y pennawd “Wales” yn Atodlen 1 i Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16) (ardaloedd heddlu y tu allan i Lundain);

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “awdurdod tân ac achub yng Nghymru” (“Welsh fire and rescue authority”) yw’r awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

mae i “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (“public services board”) yr ystyr a roddir gan adran 29 a 47(4)(a);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;

mae i “corff cyhoeddus” (“public body”) yr ystyr a roddir gan adrannau 6 a 52;

F1ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

mae i “cyfranogwr gwadd” (“invited participant”) yr ystyr a roddir gan adran 30(5);

ystyr “cynllun llesiant lleol” (“local well-being plan”) yw cynllun a gyhoeddwyd o dan adran 39 F2, 44(5) neu 47(6) neu (11) ;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “dangosyddion cenedlaethol” (“national indicators”) yr ystyr a roddir gan adran 10(1)(a);

mae i “datblygu cynaliadwy” (“sustainable development”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

mae i “egwyddor datblygu cynaliadwy” (“sustainable development principle”) yr ystyr a roddir iddi gan adran 5;

ystyr “nodau llesiant” (“well-being goals”) yw’r nodau a bennir yn adran 4;

ystyr “y panel cynghori” (“the advisory panel”) yw’r panel o gynghorwyr a sefydlwyd o dan adran 26;

ystyr “partneriaid eraill” (“other partners”), mewn perthynas â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yw’r cyrff a nodir yn adran 32(1);

ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly’s Public Accounts Committee”) yw’r pwyllgor y cyfeirir ato fel y “Pwyllgor Archwilio” yn adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);

mae “pwyllgor trosolwg a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) i’w ddehongli yn unol ag adran 35(4);

mae i “undeb llafur” (“trade union”) yr ystyr a roddir yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p.52).

(2)

Yn Rhan 4 o’r ddeddf hon, ystyr “mudiad gwirfoddol perthnasol” yw corff (ac eithrio corff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) y mae ei weithgareddau—

(a)

yn cael eu cyflawni am reswm heblaw am wneud elw, a

(b)

er budd ardal gyfan bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, neu ran o’r ardal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(3)

Mae landlord cymdeithasol cofrestredig (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996) sy’n darparu tai yn yr ardal awdurdod lleol yn fudiad gwirfoddol perthnasol at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf hon.