RHAN 5DARPARIAETHAU TERFYNOL
54Rheoliadau
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—
(a)
pŵer i wneud gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;
(b)
pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y mae Gweinidogion Cymru yn ei hystyried yn briodol.
(2)
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(3)
Caiff offeryn statudol sy’n cynnwys darpariaeth fel y ddarpariaeth a grybwyllir yn is-adran (1)(b), yn achos rheoliadau o dan adran 33(1), 40(3) neu 52(1), gynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol, neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—
(a)
Deddf Seneddol;
(b)
Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(4)
O ran offeryn statudol sy’n cynnwys y canlynol (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd gyda darpariaeth arall)—
(a)
rheoliadau o dan adran 40(3) neu 52(1),
(b)
rheoliadau o dan adran 33(1) sy’n diwygio adran 29(2) neu 30(1), neu
(c)
rheoliadau o dan adran 53 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol,
ni chaniateir iddynt gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi ei gymeradwyo gan ei benderfyniad.
(5)
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
(6)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad a basiwyd neu a wnaed ar ôl pasio’r Ddeddf hon.