RHAN 5DARPARIAETHAU TERFYNOL
53Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, drosiannol neu arbed at ddibenion rhoi effaith lawn i un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.
(2)
Caiff y rheoliadau (ymysg pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—
(a)
Deddf Seneddol;
(b)
Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(3)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad sydd wedi ei phasio neu ei gwneud ar ôl pasio’r Ddeddf hon.
(4)
Nid yw’r pŵer a ddyroddir gan yr adran hon wedi ei gyfyngu gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.