RHAN 5DARPARIAETHAU TERFYNOL

52Ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adran 6(1) drwy—

(a)

ychwanegu person,

(b)

tynnu person ymaith, neu

(c)

diwygio’r disgrifiad o berson.

(2)

Ond ni chaiff y rheoliadau ond ddiwygio adran 6(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)

Os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw Rhannau 1 i 3 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus.

(4)

Cyn gwneud rheoliadau sy’n diwygio adran 6(1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

y Comisiynydd;

(b)

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol;

(c)

os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.