xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 3LL+CAMRYWIOL

50Dangosyddion perfformiad a safonauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau y byrddau neu bersonau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli’r aelodau hynny;

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 50 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)