RHAN 2GWELLA LLESIANT

Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

5Yr egwyddor datblygu cynaliadwy

(1)

Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

(2)

Er mwyn gweithredu yn y modd hwn, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried y pethau canlynol—

(a)

pwysigrwydd cydbwyso anghenion y tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig pan allai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effaith niweidiol yn yr hirdymor;

(b)

yr angen i gymryd ymagwedd integredig, drwy ystyried—

(i)

ym mha ffordd y gallai amcanion llesiant y corff effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;

(ii)

effaith amcanion llesiant y corff ar ei gilydd neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig pan all camau a gymerir gan y corff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fod yn niweidiol i gyflawni un arall;

(c)

pwysigrwydd cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—

(i)

Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu

(ii)

y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;

(d)

ym mha ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff yn gweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant, neu gynorthwyo corff arall i gyflawni ei amcanion;

(e)

ym mha ffordd y gallai defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant y corff neu amcanion corff arall.