RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 3AMRYWIOL

49Cyfarwyddydau i uno F1, i ddaduno neu i gydlafurio

(1)

Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 47(2) neu F2(8) neu adran 48(2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob aelod o’r bwrdd F3neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus y maent yn bwriadu eu cyfarwyddo.

(2)

Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros wneud hynny.

F4(3)

Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o’r fath.