47Uno byrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C
(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(3)Ond dim ond os y bodlonir y canlynol y caiff byrddau uno—
(a)mae’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd sy’n ceisio uno, neu sy’n cael eu cyfarwyddo i uno, a
(b)nid oes Bwrdd Iechyd Lleol arall yn aelod o unrhyw un o’r byrddau hynny.
(4)Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—
(a)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a
(b)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 47 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3