RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 3AMRYWIOL
47Uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus
(1)
Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(3)
Ond dim ond os y bodlonir y canlynol y caiff byrddau uno—
(a)
mae’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd sy’n ceisio uno, neu sy’n cael eu cyfarwyddo i uno, a
(b)
nid oes Bwrdd Iechyd Lleol arall yn aelod o unrhyw un o’r byrddau hynny.
(4)
Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—
(a)
rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a
(b)
rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.