RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL
Cynlluniau llesiant lleol
44Adolygu cynlluniau llesiant lleol
(1)
Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)
adolygu a diwygio ei amcanion lleol;
(b)
adolygu a diwygio ei gynllun llesiant lleol (a rhaid iddo ddiwygio ei gynllun os yw wedi diwygio ei amcanion lleol).
(2)
O ran pob bwrdd—
(a)
rhaid iddo adolygu ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol os yw’n cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, a
(b)
caiff ddiwygio ei amcanion neu ddiwygio ei gynllun o ganlyniad i adolygiad o’r fath.
(3)
Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau am ei roi.
(4)
Cyn diwygio ei gynllun, rhaid i bob bwrdd ymgynghori â’r canlynol—
(a)
y Comisiynydd;
(b)
y personau y soniwyd amdanynt yn adran 43(1).
(5)
Rhaid i gynllun diwygiedig gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6)
Rhaid i fwrdd anfon copi o’i gynllun diwygiedig at y canlynol—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
y Comisiynydd;
(c)
Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)
pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.