RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL

Cynlluniau llesiant lleol

43Paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth

(1)

Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—

(a)

y Comisiynydd (ar ôl cael cyngor gan y Comisiynydd o dan adran 42(2));

(b)

ei gyfranogwyr gwadd;

(c)

ei bartneriaid eraill;

(d)

y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(e)

pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;

(f)

unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;

(g)

cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;

(h)

cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;

(i)

undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;

(j)

y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol yn ardal y bwrdd y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(k)

unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn y bwrdd, â buddiant mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

(2)

Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i bob bwrdd ddarparu cynllun llesiant lleol drafft i bob ymgynghorai.

(3)

Rhaid i’r ymgynghoriad o dan is-adran (1) beidio â dod i ben hyd nes bod o leiaf 12 wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y dechreuodd yr ymgynghoriad.

(4)

Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod lle mae pob aelod yn cadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r cynllun ar gyfer ei gyhoeddi.

(5)

Os yw’r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), ni chaiff gweithrediaeth yr awdurdod arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant o dan y trefniadau hynny; at hynny nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau etc.) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

(6)

Yn achos pob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, ni cheir arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant lleol ond mewn cyfarfod o’r corff o dan sylw.