Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

42Paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y ComisiynyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus geisio cyngor y Comisiynydd o ran sut i gymryd camau i gyflawni’r amcanion lleol i’w cynnwys yn y cynllun yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd roi’r cyngor—

(a)yn ysgrifenedig, a

(b)ymhen dim llai na 14 o wythnosau ar ôl ei geisio.

(3)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cyngor y Comisiynydd yr un pryd ag y mae’n cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 42 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3