(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun (“cynllun llesiant lleol”) sy’n nodi ei amcanion lleol a’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.
(2)Caiff y cynllun gynnwys amcanion—
(a)sydd hefyd yn amcanion llesiant a gyhoeddwyd o dan Ran 2 gan aelod o’r bwrdd;
(b)sydd i’w cyflawni drwy gymryd camau—
(i)gan un neu ragor o aelodau o’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu’n unigol, neu
(ii)unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu ar y cyd.
(3)Ond ni chaniateir i gynllun gynnwys amcan sydd i’w gyflawni drwy gamau sydd i’w cymryd gan gyfranogwr gwadd neu bartner arall (pa un ai yn unigol neu ar y cyd mewn unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill) ond os yw’r bwrdd wedi cael cydsyniad y cyfranogwr gwadd neu’r partner arall hwnnw, yn ôl y digwydd.
(4)Wrth osod ei amcanion llesiant rhaid i fwrdd ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.
(5)Rhaid i gynllun llesiant lleol gynnwys datganiad—
(a)sy’n egluro pam y mae’r bwrdd yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion lleol yn cyfrannu o fewn yr ardal at gyrraedd y nodau llesiant;
(b)sy’n egluro sut y mae’r amcanion ac unrhyw gamau arfaethedig wedi eu gosod mewn cysylltiad ag unrhyw faterion a grybwyllir yn yr asesiad diweddaraf o lesiant a gyhoeddwyd o dan adran 37;
(c)sy’n pennu’r cyfnodau amser y mae’r bwrdd yn disgwyl cyflawni’r amcanion o fewn iddynt;
(d)sy’n egluro sut y mae unrhyw gamau arfaethedig i’w cymryd yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(e)os yw’r cynllun yn cynnwys amcanion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b), sy’n pennu’r camau arfaethedig i’w cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hynny ac, yn achos camau i’w cymryd gan gyfuniad o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill, y personau sydd yn y cyfuniad;
(f)os nad y cynllun cyntaf i’r bwrdd ei gyhoeddi yw’r cynllun, sy’n pennu’r camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun blaenorol y bwrdd a phennu i ba raddau y mae’r amcanion hynny wedi eu cyflawni;
(g)sy’n darparu unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.
F1(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)[F2Rhaid] i bob bwrdd gyhoeddi cynllun llesiant lleol ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir bob etholiad arferol [F3o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)] .
(8)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i gynllun at—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.
Diwygiadau Testunol
F1A. 39(6) wedi ei hepgor (20.3.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(4)(a)
F2Gair yn a. 39(7) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(4)(b)(i)
F3Geiriau yn a. 39(7) wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(4)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 39 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3