RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL
Asesiadau llesiant lleol
38Paratoi asesiadau
(1)
Cyn cyhoeddi ei asesiad o dan adran 37, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—
(a)
y Comisiynydd;
(b)
cyfranogwyr gwadd y bwrdd;
(c)
ei bartneriaid eraill;
(d)
y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(e)
pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;
(f)
unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;
(g)
cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;
(h)
cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;
(i)
undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;
(j)
y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(k)
unrhyw bersonau eraill y mae ganddynt, ym marn y bwrdd, ddiddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.
(2)
Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddarparu drafft o’i asesiad i bob ymgynghorai.
(3)
Wrth baratoi ei asesiad, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried pob un o’r canlynol—
(a)
yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27);
(b)
yr adolygiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth addysg feithrin ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 119(5)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
(c)
yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 26(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21);
(d)
yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1);
(e)
yr asesiad diweddaraf a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);
(f)
yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal awdurdod lleol;
(g)
yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal awdurdod lleol;
(h)
yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn yr ardal awdurdod lleol;
(i)
y cyfryw adolygiad neu asesiad arall mewn perthynas â’r ardal awdurdod lleol a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (neu unrhyw ddadansoddiad arall a ddynodir mewn rheoliadau o’r fath fel adolygiad neu asesiad at ddiben yr adran hon).