RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 1SEFYDLU, CYFRANOGIAD A CHRAFFU
33Newidiadau mewn cyfranogiad
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy—
(a)
ychwanegu person,
(b)
tynnu person ymaith, neu
(c)
diwygio’r disgrifiad o berson.
(2)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ond ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo o natur gyhoeddus.
(4)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)
aelodau, cyfranogwyr gwadd a phartneriaid eraill y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r rheoliadau arfaethedig yn ymwneud â hwy, a
(b)
os bydd y rheoliadau hynny yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.