RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 1SEFYDLU, CYFRANOGIAD A CHRAFFU

32Partneriaid eraill

(1)

Dyma bartneriaid eraill bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)

cyngor cymuned ar gyfer cymuned mewn ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol) (ond gweler hefyd adran 40);

(b)

ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(c)

Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw rhan ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol);

(d)

awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(e)

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(f)

sefydliad yn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch sydd wedi ei leoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(g)

Cyngor Celfyddydau Cymru;

(h)

Cyngor Chwaraeon Cymru;

(i)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(j)

Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i fwrdd—

(a)

gofyn am gyngor ei bartneriaid eraill, a

(b)

eu cynnwys fel arall yn y fath fodd ac i’r fath raddau ag sy’n briodol yn eu barn hwy.

(3)

Yn is-adran (1)(f), mae i “sector addysg bellach” a “sector addysg uwch” yr un ystyr ag a roddir i “further education sector” a “higher education sector” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).