RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 1SEFYDLU, CYFRANOGIAD A CHRAFFU
31Gwahoddiadau i gyfranogi: dyroddi, ymateb a hyd y cyfranogiad
(1)
Rhaid i wahoddiad o dan adran 30(1) gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn—
(a)
cyfarfod cyntaf bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler paragraff 2(1) o Atodlen 3), a
(b)
pob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1) o’r Atodlen honno.
(2)
Mewn perthynas â gwahoddiad o dan adran 30(1) neu (2)—
(a)
caiff fod ar ba ffurf bynnag y bydd y bwrdd yn penderfynu arno; ond
(b)
rhaid iddo bennu’r person y dylid anfon ymateb ato.
(3)
Caiff cyfranogwr gwadd gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd yn y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw’r ymateb yn derbyn y gwahoddiad i law’r person y dylid anfon ymateb ato, a
(b)
sy’n dod i ben ar y dyddiad y cynhelir yr etholiad arferol nesaf o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).