RHAN 2GWELLA LLESIANT

Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

3Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

(1)

Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.

(2)

Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys⁠—

(a)

gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a

(b)

cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

(3)

Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(4)

Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.