RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PENNOD 1SEFYDLU, CYFRANOGIAD A CHRAFFU
29Byrddau gwasanaethau cyhoeddus
(1)
Sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
(2)
Dyma aelodau pob bwrdd—
(a)
yr awdurdod lleol;
(b)
y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(c)
yr awdurdod tân ac achub yng Nghymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(d)
Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
(3)
Yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (neu “fwrdd”) yn gyfeiriad at aelodau’r bwrdd hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn swyddogaeth i bob aelod o’r bwrdd na ellir ond ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.