xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i gorff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i ddilyn y ffordd o weithredu a nodir yn yr argymhellion a wneir iddo gan y Comisiynydd o dan adran 20(4) oni bai bod—
(a)y corff cyhoeddus yn fodlon bod rheswm da iddo beidio â dilyn yr argymhelliad mewn categorïau penodol o achosion neu o gwbl, neu
(b)yn penderfynu ar ddull gweithredu amgen mewn perthynas â phwnc yr argymhelliad.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch sut i ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd.
(3)Wrth benderfynu sut i ymateb i argymhelliad o’r fath, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.
(4)Rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi ei ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd ac os nad yw’r corff yn dilyn argymhelliad, rhaid i’r ymateb gynnwys rheswm y corff dros wneud hynny ac egluro pa gamau gweithredu amgen, os o gwbl, y mae’n bwriadu eu cymryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 22(1)(4) mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
I3A. 22(2) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(f)
I4A. 22(3) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(g)