RHAN 3COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Swyddogaethau’r Comisiynydd

22Dyletswydd i ddilyn argymhellion

(1)

Rhaid i gorff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i ddilyn y ffordd o weithredu a nodir yn yr argymhellion a wneir iddo gan y Comisiynydd o dan adran 20(4) oni bai bod—

(a)

y corff cyhoeddus yn fodlon bod rheswm da iddo beidio â dilyn yr argymhelliad mewn categorïau penodol o achosion neu o gwbl, neu

(b)

yn penderfynu ar ddull gweithredu amgen mewn perthynas â phwnc yr argymhelliad.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch sut i ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd.

(3)

Wrth benderfynu sut i ymateb i argymhelliad o’r fath, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.

(4)

Rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi ei ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd ac os nad yw’r corff yn dilyn argymhelliad, rhaid i’r ymateb gynnwys rheswm y corff dros wneud hynny ac egluro pa gamau gweithredu amgen, os o gwbl, y mae’n bwriadu eu cymryd.