Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

19Swyddogaethau’r Comisiynydd

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd—

(a)darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus (gan gynnwys darparu cyngor ar newid hinsawdd);

(b)darparu cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;

(c)darparu cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ynghylch paratoi ei gynllun llesiant lleol (gweler adran 42);

(d)darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;

(e)hybu’r arferion gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth iddynt gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(f)hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(g)annog cyrff cyhoeddus i gydweithio ac i weithio gyda phersonau eraill pe gallai hynny eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;

(h)ceisio cyngor gan banel gynghori (gweler adran 26) mewn perthynas ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiynydd.

(2)Caiff y Comisiynydd ymgymryd â gwaith ymchwil neu astudiaethau eraill mewn perthynas â’r canlynol—

(a)i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy,

(b)i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol,

(c)yr egwyddor datblygu cynaliadwy ei hun (gan gynnwys sut y cymhwysir yr egwyddor i osod a chyflawni amcanion llesiant), a

(d)unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru (neu unrhyw ran o Gymru).

(3)Nid yw’r cyfeiriadau yn yr adran hon at ddarparu cymorth i gorff cyhoeddus yn cynnwys darparu cymorth ariannol.