Dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw—
(a)hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig er mwyn—
(i)gweithredu fel gwarchodwr gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a
(ii)annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wnânt, a
(b)at y diben hwnnw i fonitro ac asesu cyflawniad yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 18 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2