RHAN 2GWELLA LLESIANT

Mesur perfformiad tuag at gyrraedd y nodau

13Adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill

(1)

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus ac eithrio Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddo at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)

Wrth baratoi adroddiad o dan Atodlen 1, neu o dan ddarpariaeth a ddiwygir gan yr Atodlen honno, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.

(3)

Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)

Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio un neu ragor o’i amcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.