RHAN 2GWELLA LLESIANT

Mesur perfformiad tuag at gyrraedd y nodau

12Adroddiadau blynyddol gan Weinidogion Cymru

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt at gyflawni eu hamcanion llesiant, a

(b)

gosod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)

Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.

(3)

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio un neu ragor o’u hamcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.

(5)

Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn cyfeirio ati.