Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2016.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 12. Help about Changes to Legislation

12Adroddiadau blynyddol gan Weinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt at gyflawni eu hamcanion llesiant, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio un neu ragor o’u hamcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.

(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn cyfeirio ati.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 12 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help