Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ATODLEN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(cyflwynwyd gan adran 34)

ATODLEN 3LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

This schedule has no associated Explanatory Notes

CworwmLL+C

1Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cyfarfod cyntafLL+C

2(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cyfarfodydd gorfodolLL+C

3(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cylch gorchwylLL+C

4(1)Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.

(2)Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—

(a)y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(b)amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;

(c)y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(d)cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;

(e)cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));

(f)cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);

(g)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;

(h)unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.

(3)O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a

(b)caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.

(4)Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I8Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cymorth gweinyddolLL+C

5Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I10Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Is-grwpiau a dirprwyoLL+C

6(1)O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a

(b)caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.

(2)Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.

(3)Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—

(a)gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;

(b)gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;

(c)paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;

(d)ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;

(e)paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;

(f)ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;

(g)adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;

(h)ymgynghori o dan adran 44[F1neu 47] ;

(i)cytuno i’r bwrdd—

(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1),

[F2(ia)os yw’r bwrdd yn fwrdd unedig o dan adran 47, daduno neu ddaduno yn rhannol o dan adran 47(7), neu]

(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I12Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodyddLL+C

7(1)Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

AelodCynrychiolydd
Awdurdod lleolMaer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a [F3phrif weithredwr yr awdurdod a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021] .
Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol CymruY prif weithredwr

(2)Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I14Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources