xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodyddLL+C

7(1)Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

AelodCynrychiolydd
Awdurdod lleolMaer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a [F1phrif weithredwr yr awdurdod a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021] .
Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol CymruY prif weithredwr

(2)Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3