ATODLEN 3BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd

7

(1)

Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)

yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)

unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

Aelod

Cynrychiolydd

Awdurdod lleol

Maer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a F1phrif weithredwr yr awdurdod a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 .

Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

  1. (a)

    y cadeirydd;

  2. (b)

    y prif swyddog;

  3. (c)

    y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

  1. (a)

    y cadeirydd;

  2. (b)

    y prif swyddog;

  3. (c)

    y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Y prif weithredwr

(2)

Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)

Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)

Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)

Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.