xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6(1)O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a
(b)caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.
(2)Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.
(3)Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—
(a)gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;
(b)gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;
(c)paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;
(d)ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;
(e)paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;
(f)ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;
(g)adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;
(h)ymgynghori o dan adran 44[F1neu 47] ;
(i)cytuno i’r bwrdd—
(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1),
[F2(ia)os yw’r bwrdd yn fwrdd unedig o dan adran 47, daduno neu ddaduno yn rhannol o dan adran 47(7), neu]
(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 3 para. 6(3)(h) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(8)(a)
F2Atod. 3 para. 6(3)(ia) wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(8)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3