ATODLEN 3BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

(cyflwynwyd gan adran 34)

Cworwm

1

Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.

Cyfarfod cyntaf

2

(1)

Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.

Cyfarfodydd gorfodol

3

(1)

Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).

(2)

Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).

Cylch gorchwyl

4

(1)

Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.

(2)

Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—

(a)

y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(b)

amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;

(c)

y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(d)

cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;

(e)

cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));

(f)

cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);

(g)

y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;

(h)

unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.

(3)

O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)

rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a

(b)

caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.

(4)

Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.

Cymorth gweinyddol

5

Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

Is-grwpiau a dirprwyo

6

(1)

O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)

rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a

(b)

caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.

(2)

Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.

(3)

Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—

(a)

gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;

(b)

gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;

(c)

paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;

(d)

ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;

(e)

paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;

(f)

ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;

(g)

adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;

(h)

ymgynghori o dan adran 44;

(i)

cytuno i’r bwrdd—

(i)

uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1), neu

(ii)

cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd

7

(1)

Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)

yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)

unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

Aelod

Cynrychiolydd

Awdurdod lleol

Maer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

  1. (a)

    y cadeirydd;

  2. (b)

    y prif swyddog;

  3. (c)

    y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

  1. (a)

    y cadeirydd;

  2. (b)

    y prif swyddog;

  3. (c)

    y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Y prif weithredwr

(2)

Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)

Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)

Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)

Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.