ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU
I1I241Statws
1
Mae’r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.
2
Nid yw’r Comisiynydd i gael ei ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn gorff sy’n mwynhau unrhyw statws, eithriad neu fraint perthynol i’r Goron.
3
Nid yw eiddo’r Comisiynydd i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.
I2I252Dilysrwydd gweithredoedd
1
Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred unigolyn fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—
a
yr unigolyn hwnnw;
b
unrhyw aelod o’r panel cynghori.
2
Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy’n arfer swyddogaethau ar ran y Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—
a
y person hwnnw;
b
y Comisiynydd;
c
unrhyw aelod o’r panel cynghori.
I3I263Cyfnod y penodiad
Mae unigolyn a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd am gyfnod o 7 mlynedd.
I4I274Telerau penodi
Mae’r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i—
a
darpariaethau’r Atodlen hon, a
b
unrhyw delerau penodi ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o dro i dro.
I5I285Taliadau cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau
1
Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i’r Comisiynydd.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i’r Comisiynydd.
3
Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
a
pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd, a
b
symiau ar gyfer darparu neu tuag at ddarparu pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd.
I6I296Anghymwyso
1
Ni chaiff unigolyn gael ei benodi’n Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).
2
Bydd Comisiynydd yn peidio â bod yn Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).
3
Mae unigolyn yn anghymwys i fod yn Gomisiynydd os yw’r unigolyn yn—
a
Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;
b
aelod o’r panel cynghori;
c
deiliad unrhyw swydd arall y caiff person ei benodi iddi, neu ei argymell neu ei enwebu ar gyfer ei benodi iddi, gan neu ar ran—
i
y Goron,
ii
y Cynulliad Cenedlaethol, neu
iii
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d
Aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi;
e
Aelod o Senedd yr Alban;
f
Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;
g
Aelod o Senedd Ewrop;
h
aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
i
aelod o staff y Comisiynydd.
I7I307Diwedd penodiad (ac eithrio drwy anghymwyso)
1
Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o’i fwriad i wneud hynny.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r Comisiynydd os ydynt wedi eu bodloni—
a
ei fod yn anaddas i barhau fel Comisiynydd, neu
b
ei fod yn analluog neu’n amharod i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
I8I318Pwerau
1
Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd, gan gynnwys—
a
codi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;
b
talu i drydydd partïon am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;
c
derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall.
2
Ni chaiff y Comisiynydd—
a
darparu cymorth ariannol i unrhyw berson;
b
caffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,
heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
3
Mae pŵer y Comisiynydd i godi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaeth arall yn gyfyngedig i godi’r symiau hynny y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol i adennill y costau, gwirioneddol neu amcangyfrifedig, o ddarparu’r cyngor neu’r gwasanaeth hwnnw.
I9I329Staff
1
Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).
2
Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.
3
Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.
4
Caiff y Comisiynydd dalu—
a
pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a
b
symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.
5
Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—
a
nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;
b
telerau ac amodau gwasanaeth y staff;
c
unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).
I10I3310Dirprwyo
Caiff swyddogaeth y Comisiynydd gael ei chyflawni ar ran y Comisiynydd gan unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw aelod o staff y Comisiynydd, ond dim ond i’r graddau y caniateir hynny gan y Comisiynydd.
I11I3411Dirprwy Gomisiynydd
Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—
a
os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
b
os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw’r Comisiynydd yn gallu arfer swyddogaethau Comisiynydd am unrhyw reswm.
I12I3512Y weithdrefn gwynion
1
Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).
2
Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
sut i wneud cwyn;
b
y person y dylid gwneud cwyn iddo;
c
y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;
d
y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.
3
Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).
4
Rhaid i’r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.
5
Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.
Cofrestr buddiannau
I13I3613
1
Rhaid i’r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr sy’n cynnwys holl fuddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd.
2
At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 14 a 15—
a
ystyr “buddiannau cofrestradwy” yw unrhyw fuddiannau y pennir eu bod yn fuddiannau cofrestradwy gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a gall hyn gynnwys buddiannau personau y mae gan y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd gysylltiad â hwy, boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu’n unrhyw fath arall o gysylltiad);
b
ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys anrhegion, lletygarwch, rhoddion a dderbynnir, buddiannau ariannol eraill, a phob gweithgaredd a gorchwyl).
3
Rhaid i’r Comisiynydd ddiweddaru ei gofrestr buddiannau yn barhaus.
I14I3714
1
Rhaid i’r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o’r gofrestr buddiannau ar gael i’w archwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o’r gofrestr ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.
2
Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r gofrestr buddiannau mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt ddiddordeb yn y gofrestr.
I15I3815Gwrthdrawiadau buddiannau
1
Rhaid i’r Comisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.
2
Os bydd hyn yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo’r swyddogaeth honno (i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi’r gwaith hwnnw o’i harfer i gael ei wneud) i aelod o staff y Comisiynydd.
3
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r Dirprwy Gomisiynydd sy’n arfer un o swyddogaethau’r Comisiynydd o dan baragraff 11 fel y mae’n gymwys i’r Comisiynydd.
I16I3916Taliadau gan Weinidogion Cymru
Caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy’n briodol yn eu tyb hwy, mewn cysylltiad â gwariant yr eir iddo wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.
I17I4017Adroddiadau blynyddol
1
Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).
2
Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.
3
Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—
a
crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;
b
dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);
c
crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;
d
cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;
e
crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.
4
Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—
a
asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
b
unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.
5
Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—
a
y panel cynghori, a
b
unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.
6
Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.
7
Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.
8
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
I18I4118Swyddog cyfrifyddu
1
Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.
2
Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.
3
Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—
a
cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
b
cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;
c
cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.
4
Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—
a
y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
b
Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
5
Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—
a
cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,
b
cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac
c
trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.
6
Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.
I19I4219Amcangyfrifon
1
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, rhaid i’r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff.
C12
Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â’r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gydag unrhyw addasiadau sy’n briodol yn eu tyb hwy.
I20I4320Cyfrifon
1
Rhaid i’r Comisiynydd—
a
cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
b
llunio cyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.
2
Mae’r cyfarwyddydau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfarwyddydau o ran—
a
yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i gael eu cyflwyno;
b
y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i gael eu llunio yn unol â hwy;
c
unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.
3
Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd y maent wedi ei roi o dan y paragraff hwn.
I21I4421Archwilio
1
Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddynariannol ganlynol.
2
Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
a
archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a
b
heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â’i adroddiad arnynt.
3
Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ardystio’r cyfrifon cyn bodloni ei hun yr aethpwyd i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithiol ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu.
I22I4522Archwilio’r defnydd o adnoddau
1
Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.
2
Ond nid oes gan yr Archwilydd Cyffredinol yr hawl i gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Comisiynydd.
3
Cyn cynnal archwiliad o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
a
ymgynghori â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a
b
ystyried barn y Pwyllgor o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.
4
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol—
a
cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gyflawnir dan y paragraff hwn, a
b
gosod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
I23I4623Y sêl a dilysrwydd dogfennau
1
Caniateir i’r Comisiynydd gael sêl.
2
Mae dogfen—
a
yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu
b
yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,
i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.