Diwedd penodiad (ac eithrio drwy anghymwyso)LL+C
This section has no associated Explanatory Notes
7(1)Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o’i fwriad i wneud hynny.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r Comisiynydd os ydynt wedi eu bodloni—
(a)ei fod yn anaddas i barhau fel Comisiynydd, neu
(b)ei fod yn analluog neu’n amharod i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
