xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CCOMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

ArchwilioLL+C

21(1)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddynariannol ganlynol.

(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â’i adroddiad arnynt.

(3)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ardystio’r cyfrifon cyn bodloni ei hun yr aethpwyd i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithiol ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)