Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gwrthdrawiadau buddiannauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

15(1)Rhaid i’r Comisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.

(2)Os bydd hyn yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo’r swyddogaeth honno (i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi’r gwaith hwnnw o’i harfer i gael ei wneud) i aelod o staff y Comisiynydd.

(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r Dirprwy Gomisiynydd sy’n arfer un o swyddogaethau’r Comisiynydd o dan baragraff 11 fel y mae’n gymwys i’r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)