xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CCOMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Y weithdrefn gwynionLL+C

12(1)Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).

(2)Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)sut i wneud cwyn;

(b)y person y dylid gwneud cwyn iddo;

(c)y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;

(d)y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.

(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).

(4)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)