ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU
I1I212Y weithdrefn gwynion
1
Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).
2
Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
sut i wneud cwyn;
b
y person y dylid gwneud cwyn iddo;
c
y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;
d
y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.
3
Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).
4
Rhaid i’r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.
5
Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.