Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIGLL+C
2(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad o’r cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(3)Yn y paragraff hwn, mae i “blwyddyn gyfrifyddu” mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG yr ystyr a roddir gan y gorchymyn—
(a)a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, sy’n sefydlu’r Bwrdd, neu
(b)a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3