ATODLEN 1ADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYRFF CYHOEDDUS ERAILL
1Cyrff cyhoeddus: cyffredinol
1
Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.
2
Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
3
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—
a
Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);
b
Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).