Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyrff cyhoeddus: cyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

1(1)Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

[F1(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.]

[F2(2B)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi) yn yr un ddogfen.]

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3