xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 3LL+CAMRYWIOL

Valid from 01/04/2016

47Uno byrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C

(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(3)Ond dim ond os y bodlonir y canlynol y caiff byrddau uno—

(a)mae’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd sy’n ceisio uno, neu sy’n cael eu cyfarwyddo i uno, a

(b)nid oes Bwrdd Iechyd Lleol arall yn aelod o unrhyw un o’r byrddau hynny.

(4)Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—

(a)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a

(b)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

Valid from 01/04/2016

48Cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C

(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i gydlafurio os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha ffodd bynnag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae bwrdd yn cydlafurio os yw’n—

(a)cydweithredu â bwrdd arall,

(b)hwyluso gweithgareddau bwrdd arall,

(c)cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall,

(d)arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran, neu

(e)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

Valid from 01/04/2016

49Cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurioLL+C

(1)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 47(2) neu 48(2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y maent yn bwriadu eu cyfarwyddo.

(2)Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

50Dangosyddion perfformiad a safonauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau y byrddau neu bersonau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli’r aelodau hynny;

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 50 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)

51CanllawiauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I6A. 51 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(m)